Lleoliad:
Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mawrth, 26 Ionawr 2016
Amser: 08.30 -
08.38
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Y Fonesig Rosemary Butler (Cadeirydd) Andrew RT Davies Jane Hutt Elin Jones Aled Roberts |
Staff y Pwyllgor: |
Aled Elwyn Jones (Clerc) |
Eraill yn bresennol |
David Melding AC, Y Dirprwy Lywydd Craig Stephenson, Cyfarwyddwr Dros Dro Gwasanaethau’r Comisiwn Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Peter Greening, Llywodraeth Cymru Christopher Warner, Pennaeth Gwasanaeth y Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth |
Cafwyd ymddiheuriadau gan Paul Davies, ac roedd Andrew RT Davies yn dirprwyo.
Nododd y Pwyllgor y cofnodion i’w cyhoeddi.
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gyflwyno cynnig i atal Rheol Sefydlog 11.16 dros dro ddydd Mercher er mwyn caniatáu i adroddiad y Pwyllgor Safonau o dan Reol Sefydlog 22.9 (Adroddiad 02-16) gael ei drafod.
Nododd y Rheolwyr Busnes y byddai pob pleidlais mewn perthynas â Bil yr Amgylchedd (Cymru) yn digwydd yn ystod trafodion Cyfnod 3.
Nododd y Rheolwyr Busnes y bydd y pleidleisio ar bob eitem arall o fusnes dydd Mawrth yn cael ei gynnal cyn i drafodion Cyfnod 3 ddechrau. Cytunodd y Pwyllgor Busnes y byddai'r Cyfnod Pleidleisio yn cael ei gynnal cyn y Ddadl Fer ddydd Mercher.
Nododd y Pwyllgor amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.
Nododd y Rheolwyr Busnes lythyr gan Mick Antoniw yn gofyn am ddadl ar yr adroddiad a baratowyd ganddo ef, Rhodri Glyn Thomas AC a chynrychiolwyr Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar Bwyllgor y Rhanbarthau mewn ymateb i argymhelliad yn adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol - rôl Cymru yn y broses o wneud penderfyniadau yn yr UE.
Penderfynodd y Pwyllgor ar drefn y busnes a chytunodd i aildrefnu'r eitemau a ganlyn:
Dydd Mercher 3 Chwefror 2016 -
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i amserlennu’r eitemau canlynol o fusnes:
Dydd Mercher 24 Chwefror 2016 -
Trafododd y Pwyllgor Busnes bapur gan y llywodraeth ynghylch Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol mewn perthynas â'r Bil Tai a Chynllunio.
Cytunodd y Rheolwyr Busnes i gyfeirio'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol at y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd ar gyfer gwaith craffu. Cytunodd y Pwyllgor Busnes hefyd y dylai’r Pwyllgor gyflwyno adroddiad ar y Memorandwm erbyn dydd Iau 25 Chwefror 2016 er mwyn i’r Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol gael ei drafod yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth 1 Mawrth 2016.
Trafododd y Pwyllgor bapur a oedd yn nodi cynigion manwl ar gyfer diwygio Rheol Sefydlog 26 yn seiliedig ar yr argymhellion yn adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar Ddeddfu yng Nghymru. Roedd y papur hefyd yn nodi diwygiadau amrywiol arfaethedig i Reol Sefydlog 26 er mwyn eglurder a chysondeb.
Cytunodd y Rheolwyr Busnes i ymgynghori â'u grwpiau ac ailystyried y papur yn y cyfarfod ar 9 Chwefror 2016.
Adroddiad Etifeddiaeth
Atgoffodd y Llywydd y Rheolwyr Busnes i gyflwyno unrhyw sylwadau ar yr Adroddiad Etifeddiaeth drafft i'r Clerc erbyn dydd Iau er mwyn gallu trafod yr adroddiad diwygiedig yn y cyfarfod ar 2 Chwefror.
Dadl gan Aelod Unigol
Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes nad oedd y Swyddfa Gyflwyno hyd yma wedi derbyn unrhyw gynigion, nac unrhyw ymholiadau gan Aelodau yn awgrymu eu bod yn bwriadu cyflwyno cynnig ar gyfer y Ddadl gan Aelod Unigol a drefnwyd ar gyfer 10 Chwefror. Dywedodd Rheolwyr Busnes eu bod yn ymwybodol o gynnig a oedd yn cael ei lunio.